Ffoniwch ar 01269 823400

Llyfrgell Gymunedol

Canolfan y Mynydd Du / Cyfleusterau / Llyfrgell Gymunedol

dal i fyny gyda rhywfaint o ddarllen

Ymunwch â’r Llyfrgell

Mae’r llyfrgell gymunedol yn cynnig dewis eang o lyfrau, DVDau a CDau i ddiddori unigolion o bob oedran a gallu.  Yn ogystal, mae gan y llyfrgell ystafell gyfrifiaduron y gall cwsmeriaid ddefnyddio yn ystod oriau agor y llyfrgell.

Ymunwch â’r llyfrgell – casglwch eich cerdyn aelodaeth heddiw!

Mae’r llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o ffuglen – mewn print maint arferol a phrint bras – i siwtio pawb, gan gynnwys llyfrau trosedd, arswyd a ffuglen wyddonol. Mae’r adran ffeithiol yn cwmpasu y rhan fwyaf o bynciau, ochr yn ochr ag amrywiaeth o fywgraffiadau.

Mae llyfrgell y plant yn cynnwys llyfrau i blant bach, i blant iau ac i bobl ifanc yn eu harddegau, yn ogystal â stoc da o lyfrau ffeithiol ar gyfer plant iau. Mae llyfrau llafar ar gael hefyd.

Oriau Agor y Llyfrgell


Dydd Llun
3:30pm – 7:00pm

Dydd Mawrth
9:30am – 12:00pm

Dydd Mercher
9:30am – 12:00pm
3:00pm – 5:00pm